Dysgwyr ac etymolegwyr

Yn aml iawn bydd fy nysgwyr am wybod rhy ffaith etymolegol am ryw air maen nhw'n dod ar ei draws am y tro cyntaf. Ymlith yr etymolegwyr brwd hyn mae hefyd rhai sy'n dweud y gall gwybod am darddiad hanesyddol y gair dan sylw eu helpu i ddwyn y gair i gof. Ydy'r gair hwn yn dod o'r Lladin? Ai gair benthyg o'r Wyddeleg yw hwn?

Mae'n rhaid i fi gyfaddef bod cwestiynau o'r fath yn peri peth anhawster i fi fel tiwtor am gwpl o resymau. Yn gyntaf, er bod ychydig o ffeithiau etymolegol gyda fi wrth law, alla i ddim dweud bod gyda fi unrhyw grap ar etymoleg fel pwnc. Pethau dw i wedi eu casglu wrth astudio ac ymchwilio yw'r ffeithiau prin sy’ gyda fi ac maen nhw i gyd braidd yn anecdotaidd.

  • Daeth tŵr i mewn i'r iaith o'r Ffrangeg.

  • Mae'r gair bord yn dod o'r gair Saesneg Canol am ddarn o bren a osodwyd dros dau dresl er mwyn ei ddefnyddio fel bwrdd bwyta. Categoreiddiwyd y gair bord yn fenywaidd a'r gair cyfateb godleddol bwrdd yn wrywaidd yn ôl y patrwm ansoddeiriau megis cron vs crwn a drom vs drwm.

  • Mae'r geiriau cnwc a feidr (mwy na thebyg) yn deilio o'r iaith Wyddeleg. 

Gwybodaeth ddatganiadol

Ond yr ail reswm pam dw i ddim yn orhoff o sgyrsiau etymolegol yn y dosbarth yw nad ydw i wir yn credu bod gwybod y ffeithiau hyn o unrhyw fudd addysgegol. Mae gwybod ffeithiau etymolegol am iaith yn fath o wybodaeth a elir yn "wybodaeth ddatganiadol" - “knowing about the language instead of knowing it" fel y mae tiwtoriaid iaith yn hoffi ei ddweud. Dyma beth yw ieithyddiaeth mewn ffordd. Dw i'n cofio darlithwyr yn y brifysgol yn dweud wrthon ni fyfywr un diwrnod, "at the end of this degree you'll know endless facts about tonnes of different languages, but you won't have learnt to speak a single one". Am rywbeth digalonnus i'w ddweud... Wel, dim i fi fel myfyriwr ieithyddiaeth-- i fi dyna ro'n i am eu gaffael: ffeithiau. Treuliais i horiau yn dysgu gramadeg y Hwngareg a system llafariaid yr iaith Wralig honno ond pan deithiais i Fwdapest ar ôl graddio do'n i ddim yn gallu archebu coffi hyd yn oed. Mae'r wybodaeth ddatganiadol hon yn codi'n aml yn y dosbarth ac, a bod yn hollol onest, mae'n rhywbeth sy'n gallu tarfu ar lif a chynllun y wers. "Is there no soft mutation following this feminine noun because it's actually  a genitive construction?, "is this a noun clause or do I need an indirect relative pronoun in this sentence?' Wel, am ddiflas! Y dasg dan sylw mewn gwersi yw cyfathrebu a pharatoi'r dysgwyr ar gyfer sgyrsiau go iawn yn y byd. "Oh, hang on, I've forgotten the word for ticket in Spanish but I know that it's definitely a  masculine noun". 

Rhag ofn i chi ddechrau meddwl mod i'n rhy gellweirus neu o bosib yn sarcastig... Dw i wrth gwrs yn trafod y pethau hyn o  fewn fy ngwersi a'r sesiynau tiwtora dwi'n eu cynnal. Ond bydda i bob amser yn trïo cadw'r trafodaethau i ddiweddglo y wers er mwyn sicrhau bod y targedau cyfathrebol wedi eu gwireddu. Fel arall, mae'r ffaith ddiddorol etymolegol, pa bynnag mor ddiddorol y bo, yn eithaf di-iws.

Dywedodd dysgwyr lefel A2 wrthaf pwy ddiwrnod eu bod nhw wedi dysgu o Instagram bod y gair amgueddfa yn cynnwys y gair "cu" ac mae'n debyg taw ystyr gwreiddiol y gair hwnnw yw "hoff" neu "annwyl". Mae'n debyg, felly, taw "mam annwyl" yw ystyr y gair "mam-gu". Yn y gair "amgueddfa" mae gyda ni'r rhannau dilynol:

  • Am - yn cwmpasu

  • Cu - annwyl

  • -fa - lle

Felly “lle i gadw pethau annwyl” yw ystyr y gair o safbwynt etymolegol. Mae hyn bendant yn ddiddorol ac mae bob amser yn braf cael dysgu rhywbeth wrth fy nysgwyr. Mewn gwirionedd, pan ddechreuais i weithio fel tiwtor, ro'n i'n cael fy synnu am ba mor aml ro'n i'n cael dysgu pethau wrth y bobl ro'n i'n eu dysgu! Sylweddolais yn eithaf sydyn dyw hi ddim yn bosib "gwybod iaith" ond yn hytrach proses ddi-baid a pharhaol yw dysgu iaith - rhywbeth sy'n wir i siaradwyr brodorol a dysgwyr ill dau. Y broblem yw does dim llawer o eiriau cyfarwydd sy'n cynnwys y gair cu (hoffwn i wybod os oes! Cysyllta os dych chi'n ymwybodol o ragor o  enghreifftiau!), hyd y gwn i dîm ond amgueddfa a rhieni-cu sydd... 

Wedi dweud hyn oll, dw i yn derbyn bod achosion lle mae ychydig o ddealltwriaeth etymolegol yn gallu bod o fudd ieithyddol i ddysgwyr. Er enghraifft, mae gwybod a yw gair yn fenywaidd neu'n wrywaidd yn anhawster cyffredin ymhlith dysgwyr sydd â'r Saesneg yn famiaith iddynt. Gellir lleihau'r anhawster hwn, rhyw faint o leiaf, drwy wybod am y duedd i eiriau benthyg fod yn fenywaidd. Mae'r geiriau canlynol i gyd â tharddiad Lladin neu Saesnig ac felly yn eiriau benywaidd:

  • Cadair

  • Ffenest

  • Cloch

  • Desg

  • Fflat

  • Bord

  • Potel

Wrth gwrs, mae eithriadau megis bath a plât. Mae hefyd eiriau sy'n mynd yn groes i'r duedd hon ond sydd mewn gwirionedd yn cyd-fynd â hi megis 'car'. Gair gwrywaidd yw hwn, a chredir gan rai etymolegwyr bod y gair yn deilio o hen air Celtaidd am fath o gerbyd a ddefnyddir i gludo neu lusgo pethau o gwmpas y gorsydd yn oes yr arth a'r blaidd. Ond mae'n anodd iawn, neu'n amhosib, gwybod a yw hyn yn hollol wir.

Elfen Ladin

A yw etymoleg o unrhyw help arall? Wel, ymhlith fy nysgwyr mae llawer sydd â phrofiad o ddysgu iaith Ladin megis Ffrangeg neu Bortiwgaleg. Os oes gyda chi brofiad o ddysgu iaith Ladin cyn i chi fynd ati i ddysgu'r Gymraeg, efallai y byddai clocio ambell i air cytras rhwng yr iaith honno a'r Gymraeg yn eich helpu i gyd-nabod a dysgu'r gair hwnnw. Mae llawer o eiriau yn y Gymraeg  a fenthycwyd i mewn i'r iaith o'r Lladin/Ffrangeg, er enghraifft:

  • Achos (Lladin: occāsiō)

  • Braich (Catalaneg: braç)

  • Cadair (Portiwgaleg: cadeira)

  • Dysgu (Lladin: discō)

  • Eglwys (Ffrangeg: église)

  • Ffrwyth (Lladin: fructus)

  • Lleidr (Sbaeneg: ladrón)

  • Modd (Lladin: modus)

  • Pabell (Lladin: papilō)

  • Senedd (Lladin: senātus)

  • Tafarn (Rwmaneg: tavernă)

  • Ysbryd (Eidalig: spirito)

Next
Next

Listen!