Cymdogion ieithyddol eich ymennydd 

I lawer iawn o bobl sy’n medru mwy nag un iaith mae trawsieithu (neu translanguaging yn Saesneg) yn rhywbeth hollol anniddorol ac i siaradwyr Cymraeg mae’n rhywbeth nad yw’n hawdd iawn ei osgoi. Trawsieithu yw’r enw sy’n cael ei roi ar y broses o gymryd gwybodaeth i mewn drwy gyfrwng un iaith ac wedyn ei defnyddio mewn iaith arall. Gallai’r broses hon fod yn anffurfiol iawn; byddai darllen erthygl yn Saesneg ac wedyn sôn amdani ddiwrnodau yn ddiweddarach gyda’ch ffrindiau Cymraeg-eu-hiaith yn enghraifft o drawsieithu. Mae enghraifft fel hon yn ymddangos yn eithaf arferol i ni yng Nghymru- dyma’r hyn rydyn ni’n ei wneud bob dydd. Does dim modd i chi fyw eich bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig- mae’r Saesneg o’n cwmpas ac mae’n rhaid i ni gymryd gwybodaeth i mewn yn un iaith ac wedyn defnyddio’r wybodaeth honno mewn cyd-destun ieithyddol arall. Mae’r pwnc wedi hawlio cryn dipyn o sylw yng Nghymru- credir taw yng Nghymru y daeth y term ‘trawsieithu’ i’r fei. Mae trawsieithu bellach yn rhan o gymwysterau cenedlaethol megis Lefel U Cymraeg Ail Iaith a Thystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

blur book close up data
Photo by Pixabay on Pexels.com

Gwelir llawer o waith sy’n ystyried defnyddio trawsieithu mewn ysgolion uwchradd er mwyn meithrin sgiliau amlieithog a manteisio ar alluoedd ieithyddol amrywiol disgyblion mewn ymdrech i hybu cydweithrediad ieithyddol a diwylliannol mewn ysgolion rhyngwladol. Mae cysyniad syml y tu ôl i’w defnydd: nid oes angen i’r gwahanol ieithoedd y mae person yn eu siarad neu’n ceisio eu dysgu frwydro yn erbyn ei gilydd. Os ydych chi wedi dysgu mwy nag un iaith fel odolyn, fe fyddwch chi’n gyfarwydd â’r teimlad hynod o rwystredig o geisio dweud gair yn Almaeneg ond i’ch gwybodaeth Ffrangeg darfu ar y broses ar y foment olaf a striwo eich brawddeg Almaeneg berffaith. Mae diffodd un iaith er mwyn siarad iaith arall yn dasg wybyddol a hanner- hyd yn oed i siaradwyr rhugl neu alluog iawn. Os ydych chi wedi bod yn y gwaith yn siarad Cymraeg yn ddi-dor drwy’r dydd ac wedyn yn mynd i gyfarfod am 16:00 lle mae angen i chi gyfathrebu yn Saesneg mae’n gallu bod yn anodd diffodd eich Cymraeg: “If you’re mynd i consider- sorry… if you’re going to consider….” Mae hyn yn fwy anodd byth os oes pobl yn yr ystafell yr ydych chi fel arfer yn siarad Cymraeg â nhw. 

Mae’r ieithoedd yr ydyn ni’n eu siarad i gyd yn ein hymenyddiau ac maen nhw’n cystadlu yn erbyn ei gilydd am ein sylw. Felly, yn hytrach na mynnu mai un iaith yn unig a ganiateir mewn dosbarth, rhoddir rhyddid i ddisgyblion ddefnyddio pa bynnag iaith y maen nhw am ei defnyddio. Mae’r sefyllfa ieithyddol yn gallu bod yn hyblyg iawn. Efallai y byddai 5 disgybl wrthi’n gweithio ar brosiect a phob un yn chwilio am wybodaeth ar y we yn ei (h)iaith ei hunan. Gwglo ac ysgrifennu nodiadau yn Bwyleg, Portiwgaleg, Sbaeneg, Hwngareg a Chymraeg. Byddai’r dysgwyr wedyn yn dod at ei gilydd i drafod eu hymchwil drwy gyfrwng un iaith, efallai Saesneg ac wedyn ymateb i beth bynnag yw gofynion y dasg mewn iaith arall, efallai Ffrangeg. 

Mae trawsieithu yn rhywbeth yr ydw i wrth fy modd yn ei wneud gyda disgyblion o bob lefel ac mae sawl ffordd i’w ddefnyddio. Gan amlaf, bydda i’n darparu deunydd darllen neu fideo Saesneg i’r myfyriwr ei ddarllen neu wylio cyn y sesiwn nesaf. Byddwn ni wedyn yn mynd ati i drafod y deunydd hwn yn Gymraeg yn ystod y wers. Gall darparu cwestiynau dealladwyedd o flaen llaw yn Gymraeg helpu dysgwyr nad yw’n hyderus iawn yn siarad yn ddigymell neu ddysgwyr sydd yn hoffi paratoi o flaen llaw. 

Does dim rhaid trafod y deunydd yn yr iaith darged- yn lle, gellir darparu deunydd yn Gymraeg ac wedyn ei drafod yn Saesneg. Yr hyn sy’n bwysig yw bod yr iaith darged yn bresenol yn un cam o’r broses isod:

MEWNBWN > PROSESU > ALLBWN 

Rhywbeth arall sy’n hynod o effeithiol yw trawsieithu “cudd”: gellir gosod tasg i’r dysgwr sydd yn gyfangwbl drwy gyfrwng yr iaith darged, hynny yw, byddai pob cam uchod yn yr iaith darged ond bod y cam prosesu yn cynnwys iaith gyntaf y dysgwr mewn ffordd lai amlwg. Er enghraifft, gellir gofyn wrth y dysgwr ddarllen cyfieithiad o lyfr Saesneg y mae e neu hi’n gyfarwydd iawn ag ef. Dyma rywbeth dwi wedi’i drïo fy hun yn yr iaith dwi’n ei dysgu, sef Swedeg. Dwi’n ffan mawr o waith F Scott Fitzgerald, yn enwedig “the Great Gatsby”. Dyma lyfr yr ydw i wedi’i ddarllen nifer o weithiau ers i mi ei ddarllen am y tro cyntaf yn yr ysgol. Dwi’n gyfarywdd iawn â’r stori a’i themâu a’i chymeriadau. Felly, er yr oeddwn i’n straffaglu’n sylweddol ar adegau i ddeall brawddeg neu baragraff, roeddwn i’n gallu defnyddio fy ngwybodaeth am y nofel i ddehongli’r hyn oedd yn digwydd. Roedd yn heriol, ond roedd yn caniatáu imi gyfieithu heb eiriadur ac i ddyfalbarhau gyda chynnwys ieithyddol a oedd y tu hwnt i fy lefel gallu presennol.   

Dwi’n ddigon ffodus i gael llawer o ddysgwyr brwdfrydig iawn sy’n medru sawl iaith. Dwi wedi mwynhau gosod tasgau sy’n galluogi fy nysgwyr i adolygu eu sgiliau Eidaleg wrth iddynt wneud eu gwaith cartref Gymraeg drwy ysgrifennu crynodeb Cymraeg o erthygl yn Corriere della sera. Mae’n ffordd hynod o effiethiol i’r Polyglots sydd am ddysgu gymaint â phosib a hwyluso’r broses o gaffael dwy iaith newydd ar yr un pryd. Ond yr hyn yr ydw i’n ei sylweddoli nawr yw nid oes angen eich bod yn medru sawl iaith er mwyn elwa o drawsieithu. Does dim angen i chi fod yn hollol rhugl mewn iaith arall chwaith. Yr hyn sydd angen yw bod yn agored i ddefnyddio ieithoedd mewn modd hyblyg a chreadigol.  

Felly, peidiwch â cheisio gwahanu eich ieithoedd- cymdogion yn eich pen ydyn nhw, felly mae’n rhaid i chi sicrhau bod digon o Gymraeg rhyngddyn nhw. 

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s